Ffrindiau o'r Ariannin yn 'gwireddu breuddwyd'
🇦🇷❤️🏴 'Dyn ni ddim wedi gadael eto ond 'dyn ni ishio dod 'nôl!'
Mae ffrindiau o’r Wladfa ym Mhatagonia wedi 'gwireddu breuddwyd' drwy ymweld â Chymru a'r Eisteddfod am y tro cyntaf.
‘Ymateb gwych’: Lle i Fwslimiaid weddïo ar y Maes am y tro cyntaf
‘Dw i'n meddwl bod o'n bwysig i ni bo’ ni'n teimlo fel bo' ni'n cael ein gwarchod gan Gymry Cymraeg.’
Mae ‘Mosg’ ar y Maes am y tro cyntaf eleni ac mae un sy’n gweithio ar y stondin yn dweud bod yr ymateb wedi bod yn wych.
Barn Lowri Thomas am Emma Finucane
'Mae hi yn anhygoel.'
Wedi iddi ennill medal aur nos Lun yn y Gemau Olympaidd, mae un o gyd seiclwyr Emma Finucane o Gaerfyrddin yn ffyddiog y gall hi gipio dwy fedal aur arall.
Neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen eleni
📚 'Falle bod o'n amser ailfeddwl am y gystadleuaeth.'
Ar ôl diffyg teilyngdod yn y Daniel Owen, a oes angen ailwampio'r wobr i roi mwy o 'statws' iddi?
'Proses wedi dechrau' yn achos aelodaeth Huw Edwards yn yr Orsedd
/|\ 'Mae pethau'n gorfod mynd trwy'r cyfarfod cyffredinol.'
Does dim penderfyniad wedi ei wneud eto ar ddyfodol Huw Edwards fel aelod o Orsedd Cymru, meddai'r Cofiadur ar ôl cyfarfod o'r Bwrdd.
Penri Roberts a Linda Gittins yn derbyn Medal Syr T.H. Parry-Williams
❤️ Mewn seremoni dwymgalon ym mhafiliwn Prifwyl Rhondda Cynon Taf, derbyniodd Linda Gittins a Penri Roberts Fedal Goffa Syr TH Parry Williams gan ddau o blant y diweddar Derec Williams - y tri yn gyd sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn
Protestiadau treisgar
'Mae'n neud i fi bryderu am fy nheulu a fy hunain.'
Aleena Khan o Gaerdydd sy'n egluro sut effaith mae'r protestiadau treisgar wedi ei chael ar gymunedau lleiafrifol.
Gwynfor Dafydd yn ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol
👑 🏴 'Mae'n ddigwyddiad mor hapus.'
Ymateb emosiynol Gwynfor Dafydd a'i deulu ar ôl iddo ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Gwynfor Dafydd yn ennill Coron y Brifwyl
Moment arbennig wrth i Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf gofleidio ei mab wedi iddo ennill Coron y Brifwyl.
Llongyfarchiadau mawr Gwynfor Dafydd!
Emma Finucane yn y Gemau Olympaidd
🚴🏽♀️ 'I weld Emma yn y Gemau Olympaidd, mae jest yn anrhydedd.'
Mae hen glwb seiclo Emma Finucane yng Nghaerfyrddin yn croesi bysedd y caiff hi fedal aur nos Lun.
Eisteddfod Pontypridd: Urddo Alison Cairns
'Maen nhw'n mynd i gael blwyddyn gwyllt.'
Wrth iddi gael ei hurddo ddydd Llun, dyma gyngor Alison Cairns i enillydd nesaf Dysgwr y Flwyddyn.
Lloyd Macey yn 'diolch i'r Eisteddfod' am ei brofiad ar X Factor
🎤’ ‘Swn i siŵr o fod ddim wedi mynd amdani a 'di mentro am X Factor sai'n credu oni bai bod fi 'di cael yr holl brofiadau yma yng Nghymru’
Mae Lloyd Macey wedi dweud bod ganddo 'ddiolch i'r Gymraeg a'r Eisteddfod' am ei baratoi ar gyfer cystadleuaeth yr X Factor yn 2017
Menyw yn cael ei hurddo i'r Orsedd ar ei 'stepen drws' ar ôl iddi gael trawsblaniad yr aren
❤️ ‘Unwaith ‘nathon nhw dweud bod e’n dod i RCT o’n i fel, ‘Byse’ hwnna lot mwy sbesial i fi’. ‘
Wedi cyfnod o salwch a gohirio'r seremoni mae Sinead Harris yn edrych ymlaen i gael ei hurddo i'r Orsedd eleni.
Protestiadau
'A oes gan yr heddlu ddigon o bwerau i ddelio efo hyn?'
Ymateb yr arbenigwr diogelwch, Dai Davies, yn dilyn rhagor o brotestiadau treisgar yn Lloegr ddydd Sul.
Mae'r Prif Weinidog Keir Starmer wedi dweud y bydd y rhai sydd yn gyfrifol 'yn wynebu holl rym y gyfraith.'
Prosiect Llain Orllewinol
👐 'Da ni’n gobeithio y byddai’n llesol iddyn nhw ddwad i le heddwch'
Mae grŵp o bobl yng ngogledd Cymru yn codi arian i ddod â phlant o Balestina i Ben Llŷn.
Steddfodwyr yn canu ym Mhontypridd
🏴 Gwlad y gân!
🎶 Steddfdodwyr yn canu'r dydd a chanu'r nos ar blatfform gorsaf drenau Pontypridd nos Sadwrn.
Eisteddfod
🌳 'Dwi'n ymwybodol bod rhai yn rhwystredig ein bod ni'n defnyddio'r parc.'
Mae’r Eisteddfod wedi gadael i drigolion ardal Pontypridd i ddefnyddio Parc Ynysangharad 'tan y funud olaf', yn ôl y Prif Weithredwr, Betsan Moses.
Dafydd Iwan
🎸🥁 'Mae gen i lond car o offerynnau ar gyfer heno. Ond mae'r maes yma yn ardderchog'
Diwrnod prysur ar y gweill i Dafydd Iwan cyn ei berfformiad ar Lwyfan y Maes nos Sadwrn.
Nia Ben Aur Sain.mp4
💃 ‘Fe wnaethon ni ymuno am ein bod ni wedi bod yn y sioe gynta’.’
Wrth i Nia Ben Aur ddychwelyd i Bafiliwn yr Eisteddfod, mae gan ambell un sy’n cymryd rhan atgofion o fod yn rhan o’r perfformiad cyntaf 50 mlynedd yn ôl.
Canllaw i faes yr Eisteddfod
📍 Dewch ar daith o gwmpas y Maes!
Mae’n Eisteddfod go arbennig eleni wrth iddi gael ei chynnal ynghanol tref Pontypridd – a dyma sydd gan y Maes i’w gynnig.