03/10/2025
Mae meithrin talent yn rhan craidd o'r hyn ni'n gwneud yn Yr Egin a mae'r ddau lun yma o’r wythnos hon yn crynhoi y cwbwl 🙌🏼🌟
Ma’ Steff yn wen o glust i glust ar ôl ennill copi o lyfr Hannah Isted yn Social Media Conference Cymru. Tra'n mynychu Diwydiannau Creadigol Coleg Sir Gâr Creative Industries mae hefyd yn un o Grewyr Cynnwys ein prosiect "Gwd Thing : Sir Benfro" ac wedi derbyn hyfforddiant cyn mynd ati i ymchwilio, saethu a golygu fidios. Bu hefyd yn dysgu sut mae sinema Yr Egin yn rhedeg o Qlab ac wedi cymysgu’r sain ar gyfer Sesiwn holi ac ateb yn dilyn dangosiad o "From Ground Zero : Stories from Gaza". Wythnos nesa, Steff fydd yn rhedeg ochr dechnegol dangosiad y ffilm "Oed yr Addewid".
Ar y dde mae Mabon, ar ben Foel Drygarn wrth i'r haul ymddangos yn y niwl. Mae Mabon newydd ddechrau ar gwrs gradd, yma yn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Wythnos ers cyrraedd Caerfyrddin yn glasfyfyriwr daeth Mabon gyda ni ar leoliad i Grymych ac i Ysgol Bro'r Preseli ar gyfer saethu fidio cerddoriaeth newydd ac mae wedi dechrau cwrdd â'r holl gwmniau sydd wedi ymgartrefu yn Yr Egin.
Ni wrth ein boddau yn darparu cyfleon gwerthfawr, yn gweithredu fel pont rhwng addysg a diwydiant, a ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld i ble eith y ddau yma a'r holl bobl ifanc eraill ni'n cydweithio â nhw yn y dyfodol🌟
*
Nurturing talent is a core part of what we do at Yr Egin and these two photos from this week sum it all up.
Steff is smiling from ear to ear after winning a copy of Hannah Isted's book at Social Media Conference Cymru. While attending Coleg Sir Gâr he's also one of the Content Creators of "Gwd Thing : Sir Benfro" and has received training before researching, shooting and editing videos for social. This week he's also learned how Yr Egin cinema runs from Qlab and mixed the sound for a question and answer session following the screening of "From Ground Zero : Stories from Gaza". Next week, Steff will run the technical side of screening the film "Oed yr Addewid".
On the right is Mabon, on top of Foel Drygarn as the sun appears in the mist. Mabon has just started a degree course, with Film and Media at UWTSD Carmarthen A week after arriving in Carmarthen as a fresher, Mabon came with us on location to Crymych and to Ysgol Bro'r Preseli to shoot a new music video and we’ve started to introduce and assist with connections with the creative companies that call Yr Egin home.
We love providing valuable opportunities, a bridge between education and industry, and we're very much looking forward to seeing where these two and all the other young people we work with go in the future.
😎 Gwd Thing!