BA Anrh Perfformio, Theatr a'r Cyfryngau

BA Anrh Perfformio, Theatr a'r Cyfryngau BA (Anrh.) Perfformio, Theatr a'r Cyfryngau
Cychwyn Medi 2022
Cwrs creadigol yn yr Atrium, Caerdydd. Byddwch yn datblygu ac yn meithrin creadigrwydd.
(1)

Cod UCAS: W405

Cwrs arloesol sy’n cynhyrchu ymarferwyr o’r radd flaenaf i weithio yn y diwydiannau creadigol (theatr a’r cyfryngau) yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r cwrs yn ateb galwad sefydliadau theatr a chyfryngau yng Nghymru am weithwyr creadigol dwyieithog medrus. Bydd yn paratoi myfyrwyr i weithio ar draws cyfryngau amrywiol a bydd myfyrwyr yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant. Bydd y cwrs yn e

ich galluogi i gymryd y camau cyntaf i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac yn cwmpasu opsiynau gyrfaol o bob math gangynnwys gweithio fel:

Actorion a chyfarwyddwyr theatr a theledu
Rheolwyr llwyfan, dramodwyr/sgriptwyr
Ymchwilwyr
Cynhyrchwyr a chyflwynwyr teledu
Athrawon
Byddwch yn astudio yng nghanol Caerdydd wrth galon y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Byddwch yn elwa o greu cysylltiadau gyrfaol angenrheidiol o’r foment gyntaf ac yn graddio gyda dealltwriaeth ddofn o’r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y diwydiant, ac o gyd-destun diwylliannol y sector theatr a’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt. Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol ym meysydd perfformio a’r cyfryngau, yn astudio cyd-destun diwylliannol y diwydiannau creadigol ac yn datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt fydd yn eich galluogi i gystadlu am waith. Mae’r staff yn arbenigwyr ym meysydd perfformio, cyfryngau a diwylliant ac mae ganddynt ystod eang iawn o brofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol fel perfformwyr, actorion, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a dramodwyr, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Does dim rheidrwydd bod gennych gymwysterau mewn drama neu astudiaethau’r cyfryngau er mwyn astudio’r cwrs hwn. Rydym yn croesawu ymgeiswyr gyda chymhwyster TGAU yn y Gymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith. Mae’r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiannau creadigol fel perfformwyr neu mewn rôl arall. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl a’r rhai sydd wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol.

Address

Atrium, 86-88 Adam Street, Caerdydd
Cardiff
CF242FN

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when BA Anrh Perfformio, Theatr a'r Cyfryngau posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to BA Anrh Perfformio, Theatr a'r Cyfryngau:

Share

Category

Nearby media companies


Other Media in Cardiff

Show All