Neges glou oddi Alaw Griffiths!📣
Dyma’ch siawns olaf i archebu’ch tocynnau (am ddim!) ar gyfer lansiadau ‘Sut i Drefnu Priodas Pum Mil’💍💒
Mae’r criw yn cychwyn ar eu taith o gwmpas y wlad YFORY! Mae ‘na groeso mawr i bawb.
Manylion pellach yn ein bio.
#llyfraucymraeg #priodaspummil #sebra
👀 GWREIDDIO
Casgliad o wyth stori fer gan Bethan Gwanas, Elen Davies, Geraint Lewis, Haf Llewelyn, Heiddwen Tomos, John Roberts, Llŷr Titus a Megan Elenid Lewis yw cyhoeddiad diweddaraf Sebra - Gwreiddio
Mae'n gyfrol sy'n mynd i'r afael â gwahanol agweddau o fyw yng nghefn gwlad Cymru yn yr oes sydd ohoni. Lleolir pob stori mewn cymuned wledig, amaethyddol, wrth i'r cymeriadau wynebu pob math o heriau - unigrwydd, colli tir ac etifeddiaeth, y tyndra rhwng yr hen ffordd o fyw a'r angen i symud ymlaen ac arallgyfeirio.
Bydd cyfle i glywed rhai o'r awduron yn trafod y gyfrol yn y Cross Foxes (Ger Dolgellau) nos lun 20.11.23 am 7.30
Gwreiddio
🔊 Sain i fyny!
✨ Dyma gyflwyno ein cyfrol nesaf... ‘Gwreiddio’ ✨
Casgliad o wyth stori fer i brocio’r meddwl gan rai o awduron mwyaf adnabyddus Cymru. Dyma gyfrol sy'n mynd i'r afael â gwahanol agweddau o fyw yng nghefn gwlad Cymru yn yr oes sydd ohoni.
👉 Ar gael yn eich siop lyfrau leol nawr!
Cyngor Llyfrau Cymru / Books Council of Wales | Cyhoeddi Cymru Publishing Wales | AMAM
HENO
Dewch i ymuno gyda ni HENO am 6.30 yng Nghlwb Bowls Pen y Bont ar Ogwr ar gyfer lansiad nofel gyntaf Sebra, Sut i Ddofi Corryn gan Mari George
Bydd y noson yn cael ei gyflwyno gan Nia Roberts, darlleniad gan Elen Lois Gruffydd, cerddoriaeth gan Evyn a Sam a chyfle i brynu copi gan Siop Tŷ Tawe
Dewch yn Llu!
Dyma ni!! Rydyn ni mor gyffrous i gael rhannu rhagor o wybodaeth am y llyfrau cyffrous, gwreiddiol a gwefreiddiol rydyn ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw. Cadwch lygad 👀😄
We’ve landed!! We’re so excited to share more information about the exciting, original and thrilling books we have been working on. Keep an eye 👀😄
https://sebra.cymru
Cyngor Llyfrau Cymru / Books Council of Wales | Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru | Cyhoeddi Cymru Publishing Wales | AMAM