06/08/2023
Llongyfarchiadau i'r 11 cor oedd yn cystadlu heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn arbennig i CF1 ar ddod yn 1af, Côr Ieuenctid Môn yn 2il a Cor Llanddarog yn 3dd. Diolch S4C am adael i ni glywed ein Pererin Wyf gan Eilir Owen Griffiths a'r trefniant newydd o Weithia gan Gareth Glyn a Cefin Roberts (diolch i Gor Ieuenctid Mon am ei gomisiynnu) unwath eto yn y pigion heno. Wir wedi codi calon i weld gymaint yn cystadlu a'r safon mor uchel gan bob un cor. Diolch bod canu corawl Cymru yn saff ar ol y blynyddoedd anodd Covid a diolch am gyngerdd o gystadleuaeth.