⭐️ Llyfr y Mis ⭐️
Yr awdur Alun Jones oedd gwestai arbennig Prynhawn Da wythnos diwethaf yn trafod ei nofel ddiweddaraf, Llwybr Gwyn yr Adar.
Dyma’r drydedd nofel mewn trioleg gan Alun Jones, un o’n prif nofelwyr. Y ddwy nofel gyntaf oedd Lliwiau’r Eira a Taith yr Aderyn. Dilynir hynt yr un cymeriadau yn y Tiroedd Oer yn y cyfnod ar ôl y rhyfela rhwng y Fyddin Lwyd a’r Fyddin Werdd. Dyma nofel hyfryd am wroldeb, gwerth teulu, grym cariad a gobaith ar ôl dioddef.
Un i’r rhestr ddarllen ar gyfer 2025?
E R C H W Y N
Tywydd swatio hefo llyfr da heddiw! 🥶❄️
Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r hyn a ddigwyddodd ar Drwyn Erchwyn yn dal i ddinistrio bywydau. A beth sydd a wnelo Goleufryn, y tŷ gwag ar gyrion pentref Erchwyn, â diflaniad yr actor, Arawn Llynon?
Dyma’r ail gês i’r ymchwilwyr preifat, Anji Kiely ac Aled O’Shea, sydd - tra’n ceisio datrys y dirgelwch - yn troedio’n beryglus o agos at erchwyn dibyn eu perthynas gythryblus eu hunain…
Dyma’r ail nofel yn y gyfres.
Cyngor Llyfrau Cymru / Books Council of Wales | Awen Menai | Palas Print | Siop Inc | Caban Pontcanna | Awen Meirion | Cant a mil | Siop Cwlwm | Siop Na-nog - Y Siop Gymraeg | Llên Llŷn Llyfrau a Recordiau
Ymlaen i 2025! Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd 🎉🥂📚
Yr anrheg perffaith i ddysgwyr neu i unrhywun sydd awydd nofel fer ag ail gydio mewn darllen nofelau Cymraeg👌🏻🎁🎄
Nofel i ddysgwyr Cymraeg Lefel Uwch yng nghyfres Amdani gan yr awdures boblogaidd, Rhian Cadwaladr. Morwyn yng nghartre stiward y chwarel yw Hanna sy'n herio'r drefn mewn oes galed. Dyma nofel hanes fywiog sy'n agor yn 1910, â'r gymdeithas chwarelyddol yn gefndir iddi.
Bargen am £7.99!
“Mae’r nofel gignoeth a thywyll hon yn cadarnhau safle ei hawdur ymhlith rheng flaenaf nofelwyr Cymraeg ein hoes.” - Aled Evans
Diolch @dor_morgan am rannu 🎁🎄🎅🏻
£10 am nofel gyffro, lawn tyndra fydd yn gyrru iasau i lawr eich cefn!
E R C H W Y N
Un arall i’r hosan dolig?
Mae Sonia wrthi’n brysur ar hyn o bryd yn sgwennu’r drydedd yn y gyfres hon!
Dim bob dydd mae rhywun yn deud fod ‘fod well gen i nofelau Sonia Edwards na rhai Richard Osman’ 😳
Cosy Crime ar ei orau! 👌🏻
🎄🎅🏻🎁
T I R D I A L
Dyma hi - y dilyniant ffrwydrol i Bedydd Tân!
Nofel dywyll, cyflym a chyffrous! Yr anrheg perffaith i unrhywun sy’n mwynhau llyfrau trosedd.
Cofiwch gefnogi eich siop lyfrau lleol 🎅🏻🎁🎄
V + fo
A dyma’r clip olaf!
Mi fyddwn ni’n dangos y clipiau yn y lansiad hefyd i chi gael blas o’r llyfr a mi fydd Elen yn darllen i ni.
Diolch i @mdavies90 ac @eli_penelin am bortreadu’r cymeriadau’n berffaith 🙌🏼
Ac i @daf_hughes am y clipiau a’i holl amynedd 🎥
Diolch yn bennaf i @llyfrau.cymru am y nawdd i allu hyrwyddo’r nofel mewn ffordd mor wahanol i’r arfer.
Mae V + fo ar gael rŵan yn eich siopau llyfrau! Prynwch gopi, newch chi’m difaru! 😉
v + fo ✌🏼
❗️RHYBUDD: Mae’r clipiau yma o’r nofel yn cynnwys iaith gref a lot o Wenglish!
Anaddas i blant ❗️
Dyma flas i chi ar nofel unigryw gan awdur newydd. Bydd hon yn cyrraedd y siopau ymhen wythnos!! Waaaa, mi yda ni mor gyffrous i rannu hon hefo chi!
Cipolwg ar Gymru gyfoes, heb ffilter.
Manylion lansiad i ddilyn yn fuan hefyd 😆
v + fo ✌🏼
❗️RHYBUDD: Mae’r clipiau yma o’r nofel yn cynnwys iaith gref a lot o Wenglish!
Anaddas i blant ❗️
I feel like a… cadach 🤣
Dyma flas i chi ar nofel unigryw gan awdur newydd. Bydd hon yn cyrraedd y siopau ymhen wythnos!! Waaaa, mi yda ni mor gyffrous i rannu hon hefo chi!
Cipolwg ar Gymru gyfoes, heb ffilter.
Y C Y L C H - Gareth Evans Jones
Nofel gyfoes, wreiddiol sy’n ein dwyn i ganol bywyd goruwchnaturiol cwfen o wrachod ym Mangor. Wrth iddynt geisio darganfod llofrudd, deuwn i sylweddoli nad ydi bywyd gwrach gyfoes yn un hawdd!
Ffantasi, hiwmor a sawl tro yn y gynffon.
Dyma i chi chwip o stori ac yn sicr yn un i’w darllen wythnos yma! 🧙🏻♀️🎃
#carudarllen #llyfraucymraeg #awdur #cefnogisiopaullyfrau #gwasgybwthyn #calangaeaf #gwrachodheddiw #gwrachodcymru #gwrach #nofel
Diolch o galon i @manonwynwilliams am ddarllen i ni. Dyma flas i chi o Lwmp gan Rhian Wyn Griffiths.
Mae’n lyfr y mis gan @llyfrau.cymru ac ar gael rŵan ym mhob siop llyfrau annibynnol. Prynwch gopi!
#carudarllen
#llyfraucymraeg
#cefnogisiopaullyfrau
#cancer
#cancryfron
#breastcancerawareness
#awyrlascharity