19/06/2024
YDYCH CHI’N DIODDEF O GLEFYD SIWGR?
DO YOU SUFFER FROM DIABETES?
Syndod yw deall faint o ddioddefwyr o’r Clefyd Siwgr sydd yn ein mysg y dyddiau hyn a faint ohonynt sydd yn ddibynnol ar dabledi’ neu wrth gwrs ‘Insulin’ i geisio rheoli’r cyflwr. Yn wir, deellir fod yna fwy ‘na 4.9 miliwn yn byw ym Mhrydain y dyddiau yma gyda’r Math 2 o Glefyd y Siwgr, heb sôn am y nifer fawr arall sydd a Math 1, hynny yw, ar ‘Insulin’ ac rydym yn sicr fod gan y dioddefwyr, sy’n byw yn yr ardaloedd yma, le i ddiolch am y meddyginiaethau sydd ar gael yn ein Canolfannau Iechyd ac wrth gwrs yn ein Ysbytai megis Gwynedd, Glan Clwyd a’r Maelor lle mae arbenigwyr yno i gyfarwyddo. ymdrin a gorwchwylio cleifion.
O gofio hyn ac i geisio codi a***n er bydd Diabetes UK Cymru mae yna ymdrech arbennig yn digwydd bore dydd Sadwrn yma, Mehefin 22ain, 2024, yng Nghanolfan Bro Tegid, Y Bala, pryd y cynhelir Stondinnau ‘Prynu a Gwerthu’ (Bring and Buy) rhwng 10.00 y bore hyd 2.00 y prynhawn, er hyrwyddo Diabetes UK Cymru gyda’i
gwaith ymchwil. Mae gan Diabetes UK Cymru bamffledi gyda gwybodaeth buddiol iawn ac angenrheidiol, yn enwedig i rai sydd newydd ddarganfod fod y cyflwr yma arnynt. Byddant ar gael yn rhad i unrhywun a garai un.
Yno hefyd bydd stondinnau yn gwerthu dillad ail-law, cardiau cyfarch a phlanhigion blodau (trwy garedigrwydd Meirion Jones, Y Bala,) i enwi ychydig o’r hyn fydd yno, ynghyd â phaned o de/coffi ayb. ac felly mawr obeithi’r y caiff y fenter yma gefnogaeth teilwng.
Os oes angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Henblas, Y Bala, (521796) neu Eryl, Perthi, Llanuwchllyn 540601.
It is well known that, unfortunately, Diabetes is on the increase and a recent survey suggests that there are well over 4.9 million people living with Type 2 Diabetes in the UK, in addition to many others who have Type 1 and who are on Insulin.
Those who suffer with both Types are incredibly grateful for the care and services available in the local Health Centres and of course from the specialist Consultants in the Gwynedd, Glan Clwyd and Maelor Hospitals.
Diabetes UK is the main Charity which funds research into finding a cure for this debilitating disease. But the Charity is desperately short of funding to maintain this research.
An event this coming Saturday, 22 nd June, between 10am and 2pm at the Bro Tegid Centre, Bala. will help raise valuable funds to continue with the Charity’s work. This event will be a ‘Bring and Buy Sale’ of second hand clothing, greeting cards, flowers and plants (kind courtesy of Meirion Jones of Bala) etc together, of course, with tea/coffee. Various free pamphlets supplied by Diabetes UK Cymru will also be available. These are essential reading particularly for newly diagnosed patients. Your support will be greatly appreciated.
If further information is required please contact Canolfan Henblas, Bala, (521796) or Eryl, Perthi, Llanuwchllyn 540601.