Jiw Jiw Films

Jiw Jiw Films Production company and YouTube channel. Welsh filmmakers finding and telling stories we care about.

Gwneuthurwyr ffilmiau Cymraeg yn ffeindio ac adrodd straeon sy’n meddwl rhywbeth i ni.

Address

Cardiff

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Jiw Jiw Films posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share

Category

Jiw Jiw Films

Sut dechreuodd Ffilmiau Jiw Jiw

(Scroll down for English)

Fe ddes i a Greg o fyny gyda’r enw ‘Jiw Jiw’ wrth edrych am enw byddai’n adlewyrchu Cymreictod y sianel, gan ein bod ni’n meddwl ei fod yn elfen sylfaenol o’r sianel. Mae ‘wel y jiw jiw’ yn ddywediad mae fy nhad a thad-cu yn defnyddio yn aml (ymysg ‘gwd ychan’ a ‘wel na ni te’), a rhywbeth bydde fi yn bendant yn dweud er mwyn dynwared nhw.

Mae’r ddau ohonom ni yn meddwl bod hi’n bwysig creu cynnwys dwyieithog er mwyn arddangos fod Cymraeg yn iaith sydd yn bendant dal yn fyw mewn cymunedau Cymraeg, ac ein bod ni’n eu defnyddio yn aml wrth newid rhwng Cymraeg a Saesneg yn hawdd (yn hytrach na bod yn ddatganiad gwleidyddol neu ffordd o fyw gwahanol). Er bod yna yn bendant cynnydd mewn deunydd Cymraeg ar lein ac ar y teledu, rydyn ni’n meddwl fod e’n bwysig i ychwanegu atynt yn y fformat hwn.