Sain Recordiau

Sain Recordiau Cerddoriaeth Gymreig o Gymru gan gwmni recordio Sain. Welsh Music from Wales from Sain Records. https://linktr.ee/sainrecordiau
(4)

Prif label recordio - Sain

Is-labeli - Rasal, Gwymon, Copa a Tryfan

Dewi-bydd colled enfawr ar dy ôl.A***n byw o gymeriad. Cerddor, bardd a chymaint mwy. Un o brif ddylanwadau cerddorol Cy...
22/08/2024

Dewi-bydd colled enfawr ar dy ôl.

A***n byw o gymeriad.
Cerddor, bardd a chymaint mwy.
Un o brif ddylanwadau cerddorol Cymru ein cyfnod ni a'i ddireidi, ei annwyldeb a'i ddidwylledd yn pefrio yn ei sgwrs, ei ganeuon a'i jôcs.

Meddyliwn am Rhiannon a'i holl deulu a chyfeillion x

02/08/2024

GIG KLUST 06 🌷

Lansio Stafell Sbâr Sain Recordiau yn caffi Maes B nos Wener nesaf, gyda Sywel Nyw, Talulah, Alaw + Don Leisure yn troelli’r traxx dan fachlud Pontypridd.

Summery beats as the sun sets. Next Friday at the Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Taith Cwm-Rhyd-y-Rhosyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ↘️↘️😃
01/08/2024

Taith Cwm-Rhyd-y-Rhosyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ↘️↘️😃

Tyrd am dro trwy Gwm-Rhyd-y-Rhosyn! Mae llwybr hudol trwy'r Cwm yn y Pentref Plant ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni.
Brysia sganio'r cod QR ar y poster i archebu taith!

Come for a walk through Cwm-Rhyd-y-Rhosyn! The magical path through the Cwm will be in the Pentref Plant (the children's village) in the National Eisteddfod.
Scan the QR code on the poster to book a tour!

Cyngorcelfyddydaucymru Artscouncilofwales Rhieni Dros Addysg Gymraeg Menter Iaith Rhondda Cynon Taf Menter Iaith Maldwyn Sain Recordiau Dysgu Cymraeg / Learn Welsh
DysguCymraeg Glamorgan Cymraeg i Bawb Mudiad Meithrin Menter Caerdydd Menter Iaith Bro Ogwr Menter Bro Morgannwg Canolfan a Theatr Soar Menter Iaith Casnewydd Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy Menter Caerffili

Edrych ymlaen at gydweithio efo Klust ↘️🎧
31/07/2024

Edrych ymlaen at gydweithio efo Klust ↘️🎧

31/07/2024

Penblwydd arbennig hapus iawn Endaf Emlyn! #80

Sesiwn arbennig yn Ty Gwerin Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar Awst 10fed, i ddathlu 50 mlynedd ers rhyddhau albym cyntaf...
22/07/2024

Sesiwn arbennig yn Ty Gwerin Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar Awst 10fed, i ddathlu 50 mlynedd ers rhyddhau albym cyntaf, gwych, Heather Jones.

♥️

17/07/2024

CYFRES AIL-RYDDHAU FEINYLS SAIN/
SAIN VINYL REISSUE SERIES

MAE'R OLWYN YN TROI - Heather Jones

Nifer cyfyngedig i ddathlu 50 mlynedd ers rhyddhau'r albym gwreiddiol.
Feinyl Pwysau Trwm 180g / Feinyl Eco-gyfeillgar, CO2 (e) Niwtral
Anfonir allan fis Medi
Rhag-archebu: https://sainwales.com/cy/products/maer-olwyn-yn-troi

Very limited 50th year reissue anniversary edition.
Heavyweight 180g Vinyl / Eco-freindly Vinyl, Manufactured CO2 (e) Neutral
Shipping in September
Pre-order: https://sainwales.com/products/maer-olwyn-yn-troi

16/07/2024

PRYD MA TE (1987)
Perl arall o blith Senglau Sain...

Sian Wheway, Mair Tomos Ifans, Carys Huw a Nia Bowen. Gyda'u caneuon gwreiddiol gwleidyddol a ffeministaidd yn llawn hiwmor dyma griw o ferched a oedd mynnu procio a herio'r drefn.

Gwrando 🎧↘️
https://bitly.cx/P30b

15/07/2024

Un arall o Senglau Sain ↘️
1981 oedd y flwyddyn rhyddhawyd 'Mari Fach' a 'Nos Sadwrn' gan ANGYLION STANLI.

Gwrando - https://bitly.cx/rFwh

05/07/2024
Sengl a Fideo newydd Bwncath - CASTELL NIGwylio 👇
05/07/2024

Sengl a Fideo newydd Bwncath - CASTELL NI

Gwylio 👇

Yn ôl yn 2020, mi gymerodd Elidyr Glyn ran mewn prosiect ar y cyd ag Ysgol Y Gelli, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Rhostryfan drwy ysgrifennu câ...

05/07/2024

Yn ôl yn 2020, mi gymerodd Elidyr Glyn ran mewn prosiect ar y cyd ag Ysgol Y Gelli, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Rhostryfan drwy ysgrifennu câ...

'Da ni'n hynod o falch o weld albym hyfryd Meinir Gwilym ar restr fer Albym Cymraeg y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol C...
03/07/2024

'Da ni'n hynod o falch o weld albym hyfryd Meinir Gwilym ar restr fer Albym Cymraeg y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru .
Llongyfarchiadau mawr i bawb - 10 albym gwych 👌🎵

Gydag union fis i fynd tan ddechrau , rydyn ni'n falch o gyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024!

Yr albymau a ddaeth i’r brig yw:

🌟 Amrwd - Angharad Jenkins a Patrick Rimes
🌟Bolmynydd - Pys Melyn
🌟Caneuon Tyn yr Hendy -Meinir Gwilym
🌟Dim dwywaith - Mellt
🌟Galargan - The Gentle Good
🌟Llond Llaw - Los Blancos
🌟Mynd â’r tŷ am dro - Cowbois Rhos Botwnnog
🌟Sŵn o’r stafell arall Hyll
🌟Swrealaeth - M_Digidol
🌟Ti ar dy ora’ pan ti’n canu - Gwilym

Mwy o wybodaeth am yr albymau yma:
https://eisteddfod.cymru/node/3784

Cyhoeddir yr enillydd ar lwyfan y Pafiliwn, am 15:00, ddydd Gwener 9 Awst.

Trefnir ar y cyd gyda BBC Radio Cymru

03/07/2024

Sengl newydd , 'Castell Ni', allan ddydd Gwener 05.07 ⚡️

Bwncath's new single, 'Castell Ni', is out this Friday via

03/07/2024

Mae’r gantores ifanc o Benllyn, Lleucu Gwawr, wedi rhyddhau ei chynnyrch cyntaf ar label Recordiau Sain. Sengl ddwbl ydy’r cynnyrch hwnnw sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 7 Mehefin, sef y caneuon ‘Hen Blant Bach’ a ‘Byw i’r Funud’. Daw Lleucu Gwawr o Lithfaen ger Pwllheli, ac wedi ...

03/07/2024
Sengl newydd CELT allan heddiw..Ewch i wrando ↘️↘️
21/06/2024

Sengl newydd CELT allan heddiw..

Ewch i wrando ↘️↘️

Dewiswch wasanaeth // Choose your preferred music service

Mae Celt yn ôl! Mae 'na haf prysur o'u blaenau a cherddoriaeth newydd sbon ar y ffordd, gan gychwyn efo'r sengl yma, syd...
17/06/2024

Mae Celt yn ôl! Mae 'na haf prysur o'u blaenau a cherddoriaeth newydd sbon ar y ffordd, gan gychwyn efo'r sengl yma, sydd allan dydd GWENER...

Yr Esgus Perffaith

Rhag-arbed/Pre-save -

https://orcd.co/yresgusperffaith

EP newydd Rhys Meirion yn ffrydio rwan!Mae Rhys Meirion wedi cael gwireddu breuddwyd – ’sgwennu, recordio a rhyddhau EP ...
14/06/2024

EP newydd Rhys Meirion yn ffrydio rwan!

Mae Rhys Meirion wedi cael gwireddu breuddwyd – ’sgwennu, recordio a rhyddhau EP o’i ganeuon ei hun, a’r rheiny mewn genre roc, blŵs a baled.

Rai blynyddoedd yn ôl, teimlodd y canwr clasurol a’r cyflwynydd teledu a radio fod yna rywbeth ar goll o ran ei brofiadau cerddorol. “’Dwi wedi bod mor lwcus o fod wedi cael profiadau anhygoel hyd yma”, meddai Rhys, “o fod y prifathro ieuengaf erioed yn y wlad, i gael fy nerbyn ar gwrs Opera y Guildhall School of Music heb unrhyw gymhwyster cerdd blaenorol, a mynd yn syth yn brif denor gyda Opera Cenedlaethol Lloegr. Ges i rôls fy mreuddwydion - Rodolfo (La Boheme) Alfredo (La Traviata) Y Dug (Rigoletto) Ernani, Tamino (Magic Flute) Nemorino (L’elesir D’amore) a llawer mwy. 'Dwi wedi cael perfformio fel unawdydd mewn llefydd anhygoel – Carneigie Hall (Efrog Newydd) Tŷ Opera Sydney, Y Coliseum, Neuadd Albert, Royal Festival Hall, Queen Elizabeth Hall (Llundain), Glyndebourne a Canolfan y Mileniwm.”

Ond er hyn, ’roedd Rhys yn teimlo bod ’na le gwag a rhywbeth arall i’w gyflawni yn gerddorol. Wedi anogaeth gan Lleuwen Steffan tra’n ffilmio cyfres Deuawdau Rhys Meirion yn 2017, penderfynodd Rhys fynd amdani ac arbrofi, am y tro cyntaf erioed, efo cyfansoddi caneuon. Prynodd gitâr acwstig, ac yn ddiweddarach, wedi gwrando ar yr Eidales, Debora Morgante, yn perfformio mor wych ar y gitâr ar Canu Gyda fy Arwr, prynodd gitâr drydan, a dysgu nifer o gordiau. Yn ôl Rhys, “’dwi wedi bod yn ffan mawr ers blynyddoedd o chwaraewyr gwych yn y byd blŵs a roc, yn arbennig felly, Stevie Ray Vaughan, ac, wrth gwrs, Mike Peters, The Alarm. Erbyn cyfnod y Gwanwyn, 2022, roeddwn i’n gwybod mod i am gael cyd-berfformio efo Mike ar fy nghyfres Canu Gyda fy Arwr, felly dyma fynd ati o ddifri i ddatblygu fy sgliiau ar y gitâr.” Perfformiodd y ddau y gân ‘Cariad, Gobaith a Nerth’, a’i rhyddhau fel sengl elusennol, gyda Rhys yn serennu ar y gitâr drydan.

Erbyn Awst 2023, roedd Rhys wedi troi ei garej yn stiwdio, wedi cyfansoddi pum cân wreiddiol ac wrthi’n recordio ei lais ei hun, lleisiau cefndir Nia, ei wraig, Elan ac Erin, ei ddwy ferch ac Osian, y mab, ac am y tro cyntaf erioed roedd Rhys yn chwarae’r allweddellau a’r gitâr fas a’r gitâr drydan ar bob trac. Yna yn Stiwdio Sain, cael cyfraniadau cerddorol gan Osian Huw Williams (drymiau), Aled Wyn Hughes (bas) a’r pianydd byd enwog, Morris Pleasure. “’Dwi mor lwcus o gael dau mor brofiadol ac amryddawn ac Osian ac Aled i’m harwain ac mi ges i’r anrhydedd mwyaf hefyd o gael neb llai na fy nghyfaill Mo Pleasure i chwarae’r piano a’r allweddellau ar y gân ‘Ti’m yn byw er eu mwyn’.” Mae Mo Pleaure yn un o gerddorion amlycaf y byd ac wedi chwarae ym mandiau Michael Jackson, Janet Jackson a Bette Midler, ac wedi bod yn gyfarwyddwr cerdd neb llai na Earth Wind and Fire am dros bymtheng mlynedd.

Mae’r caneuon ar yr EP yn rai personol iawn i Rhys - yn ganeuon am deulu, am gyfeillion ac am fywyd yn gyffredinol.

Ewch i wrando ↘️
https://orcd.co/yndoedadamser

Rai blynyddoedd yn ôl prynodd Rhys Meirion gitâr acwstig, yna gitâr drydan a dechrau cyfansoddi caneuon..Trodd y garej y...
13/06/2024

Rai blynyddoedd yn ôl prynodd Rhys Meirion gitâr acwstig, yna gitâr drydan a dechrau cyfansoddi caneuon..Trodd y garej yn stiwdio a recordio 5 cân wreiddiol..

Gyda chyfraniadau cerddorol gan ei deulu, Osian Huw Williams, Aled Wyn Hughes a'r pianydd byd enwog, Morris Pleasure, (aelod o fand Michael Jackson, Ray Charles a Bette Midler), dyma wireddu breuddwyd i Rhys - sgwennu a recordio EP mewn genres roc/blues/baled..

Yr EP allan FORY!

https://orcd.co/yndoedadamser

13/06/2024

Pnawn ma ar ol 4 😎

12/06/2024

EP newydd Rhys Meirion allan dydd GWENER 😎

🪶 Sengl ddwbl LLEUCU GWAWR allan heddiw. Ewch i ffrydio...
07/06/2024

🪶 Sengl ddwbl LLEUCU GWAWR allan heddiw.

Ewch i ffrydio...

Dewiswch wasanaeth // Choose your preferred music service

03/06/2024

Sengl ddwbl Lleucu Gwawr allan dydd Gwener 🪶

Lleucu Gwawr - croeso i label Sain ☀️Cerddoriaeth newydd gan Lleucu yn fuan iawn..
20/05/2024

Lleucu Gwawr - croeso i label Sain ☀️

Cerddoriaeth newydd gan Lleucu yn fuan iawn..

08/05/2024

Dathlu 50mlwyddiant Cwm-Rhyd-y-Rhosyn gyda’r Mentrau Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd

Mae hanner canrif bellach ers i recordiau Cwm-Rhyd-y-Rhosyn gan Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones gael eu cyhoeddi gyntaf. Digon o achlysur i’r Mentrau Iaith ddathlu’r gyda llwybr arbennig trwy fyd hudol y Cwm ar eu stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu taith, cerwch i wefan Mentrau Iaith Cymru.

🌞❤🎉

Celebrating 50 years of Cwm-Rhyd-y-Rhosyn with the Mentrau Iaith in Eisteddfod yr Urdd

The popular records Cwm-Rhyd-y-Rhosyn by Dafydd Iwan and Edward Morus Jones were first published 50 years ago. More than a good reason for the Mentrau Iaith to celebrate the occasion with a specially designed path through the magic world of the Cwm on our stand in Eisteddfod yr Urdd.

For more information and to book a tour, check out the Mentrau Iaith Cymru website.

Urdd Gobaith Cymru Rhieni Dros Addysg GymraegEisteddfod Genedlaethol Cymru Mudiad Meithrin Dysgu Cymraeg / Learn Welsh Comisiynydd Y Gymraeg
Dafydd Iwan Edward Morus Jones Menter Iaith Maldwyn Llywodraeth Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales

Address

Caernarfon
LL545TG

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Sain Recordiau posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Sain Recordiau:

Videos

Share

Nearby media companies


Other Music production in Caernarfon

Show All

You may also like