Llyfr y Flwyddyn 2024 - Mari George
"'Dw i erioed wedi gweld rhywun yn cerdded i fyny i lwyfan mewn gymaint o syndod!" 😮
Mari George, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2024, sy'n sgwrsio gyda Ffion Dafis am lwyddiant ei nofel gyntaf, 'Sut i Ddofi Corryn'! 🙌
Gwrandewch ar y sgwrs gyfan fan hyn 👇
https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p0j925wc
Liz Truss yn colli sedd yn "bersonol"
"Mae'r canlyniad yna mor ysgubol, mae'n ymddangos bod yna elfen o gollfarn moesol gan bobl yr etholaeth yn ei herbyn."
Ymateb Richard Wyn Jones i ganlyniad etholaeth y cyn-Brif Weinidog Liz Truss.
Un blaid wedi "llamu o nunman" yn un o "straeon mawr" yr etholiad
"Mae'r darlun gwleidyddol wedi newid yn sylweddol dros nos." 🗳️
Betsan Powys yw un o'r sylwebwyr sy'n dadansoddi canlyniadau'r Etholiad ar Dros Frecwast.
Gwrandewch ar yr ymateb i gyd BBC Sounds: https://bbc.in/4bvbraL
Ffion Dafis a Tudur Owen - Llyfr y Flwyddyn 2024
Yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024, mae Ffion Dafis wedi cael sgwrs sydyn gyda Tudur Owen, cyflwynydd y noson, i edrych ymlaen at y seremoni. Pob lwc i bawb! 🙌
Mae Ffion yn ymuno gyda Rhys Mwyn ar ei raglen heno tan 10yh i ddod â'r diweddaraf i chi yn fyw o'r seremoni! Cofiwch, hefyd, y bydd Ffion yn siarad gyda'r enillwyr a'r beirniaid i gyd ar ei rhaglen ddydd Sul am 2yh. 🎉
Enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes 2024
Pwy ydi enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes eleni? 📚
Dyma oedd gan y beirniad, Casia Wiliam, i'w ddweud am safon y gystadleuaeth 🤩
Am restr llawn o'r enillwyr, ewch draw i wefan Cymru Fyw 👉 https://bbc.in/3xMHBRb
Ac i glywed y sgyrsiau gyda'r enillwyr, mae'r cyfan ar gael ar BBC Sounds 🎧 https://bbc.in/3xAqjqz
Llongyfarchiadau i chi gyd! ✨
Daeth Lily Beau i mewn am sgwrs gyda Caryl
Pan oedd Lily Beau yn gweithio i label recordiau mawr yn Llundain, fe gafodd hi sioc wrth fynd â phaned at y bos! ☕️ 😆
Hi aeth Trwy'r Traciau gyda Caryl yr wythnos hon. 🎶
🎧 Gwrandewch ar BBC Sounds
🎙️ PODLEDIAD ETHOLIAD VAUGHAN A RICHARD 🎙️
Gyda dim ond ychydig o ddyddiau i fynd tan yr etholiad cyffredinol, mae Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones wedi bod yn edrych yn ôl ar yr ymgyrch 🗳️
Gwrandewch nawr ar BBC Sounds ➡️ https://bbc.in/4eQgN35
Oedd Trystan mewn BOY BAND?! 🤯😆😲
Pan mae dy gyd-gyflwynydd yn trefnu neges gan LEJAND Cymraeg... 👀
Gwrandewch ar BBC Sounds: https://bbc.in/TAEBoybands
Nigel Owens: "Mae e'n stressful, nagyw e?!"
"Mae diwrnod mawr i ddod ym mis Awst." 🤵♂️🤵♂️
Ymunwch ag Iwan Griffiths bore 'fory lle bydd y cyn-ddyfarnwr byd-enwog, Nigel Owens, yn ymuno ag ef am sgwrs. 🏉
📻 Bore Sul, 08:00
Etholiad Vaughan a Richard
Faint o effaith mae honiadau am gamblo yn eu cael ar ymgyrch yr etholiad? 🗳️ 🤔
Dyna sydd ar feddwl Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones yr wythnos hon... 📻
25 mlynedd o Stadiwm y Mileniwm
Eleni mae 25 mlynedd ers i Stadiwm y Mileniwm agor yng Nghaerdydd 🏟️
Jason Mohammad aeth i Stadiwm Principality i hel atgofion am y lle eiconig. Un o'i westeion oedd Mei Gwynedd
Cyfarfod Cyntaf Rachael ac Emma o Eden
"Roedd hi fel rhywun yn dod o outer space" 🤔🪐
Rachael o Eden sy’n datgelu beth oedd yn mynd trwy ei phen pan welodd hi Emma Walford am y tro cyntaf! 😍🪩
"Mae fe'n waeth nawr bod ti 'di gael e achos ti'n blentyn i fi."
"Bydde'n well 'da fi bydden i 'di cael e'n ôl na bod ti'n cael e."
Mae rhannu'r newyddion o ddiagnosis canser gyda'r teulu yn anodd ac mae Ann, mam Mari, wedi gorfod bod ar ddau ben y sgwrs honno. Yn y bennod ddiweddaraf o 1 mewn 2 mae Mari yn cael cwmni ei mam i drafod ei phrofiad hi. 💚
Delyth Medi yn cadw cwmni i Shân
Daeth Delyth Medi i'r stiwdio i ddathlu 30 mlynedd o Côr Canna gyda Shan Cothi! 🏆
Digon o hwyl a chwerthin! Gwrandewch ar y cyfan ar BBC Sounds.
Etholiad Vaughan a Richard
"Mae hyn yn bryder mawr iawn iawn i bobl fel fi sydd yn byw a bod yn y byd arolygon barn ‘ma." 🗳️
📲 Gwrandewch ar bodlediad Etholiad Vaughan a Richard ar BBC Sounds
🎙️ PODLEDIAD ETHOLIAD VAUGHAN A RICHARD 🎙️
Gydag ychydig dros bythefnos i fynd tan yr etholiad, mae Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones wedi bod yn cael cip olwg ar maniffestos rhai o'r pleidiau 🗳️
Gwrandewch ar @BBCSounds ➡️ https://bbc.in/4cprYhi
Pwy fydd yn ennill Euro 2024? 🤔
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn ceisio darogan be fydd yn digwydd yn Yr Almaen dros y mis nesaf 🇩🇪
⚽ Gwrandewch ar Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds ⚽
📲 bbc.in/45pB5Ms
Stori Elinor Williams yn byw gydag Alopesia
"Mae gwallt yn rhan annatod o bob un ohonon ni - pan chi'n colli hwnna, mae'n cael effaith ysgytwol ar eich hunain hyder"
Elinor Williams ranodd ei stori ar Dros Frecwast.
Ha ha ha ha! Rhys Meirion ar raglen Ifan Evans
Ha ha ha ha ha! 😂
Ymunwch ag Ifan Jones Evans prynhawn 'ma lle bydd e'n cael cwmni heintus Rhys Meirion a fydd yn trafod ei EP newydd! 🎶
📻 Gwrandewch ar Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Sounds.
"Unwaith mae'r cefnogwyr yn troi ti mewn trwbwl"
Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn ystyried os oes 'na ddyfodol i reolwr Cymru Rob Page
⚽Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds ⚽
🎧 https://bbc.in/4cnbeY9
📱 Lawrlwythwch | Tanysgrifiwch